Ail ddiwrnod o streiciau gan weithwyr trenau yn atal gwasanaethau yng Nghymru
Ail ddiwrnod o streiciau gan weithwyr trenau yn atal gwasanaethau yng Nghymru
Fe fydd gweithwyr trenau yn cynnal ail ddiwrnod o streicio mewn wythnos ddydd Iau, gan effeithio ar wasanaethau ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae Undeb RMT yn cynnal y gweithredu diwydiannol yn dilyn anghydfod gyda Network Rail dros gyflogau ac amodau gwaith staff.
Er nad oes anghydfod rhwng yr undeb a Thrafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol, nid oes modd cynnal gwasanaethau gan mai Network Rail sy'n gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd.
Dim ond tua 20% o wasanaethau fydd yn rhedeg ar draws rhwydwaith Network Rail ar ddiwrnodau'r streic.
Yma yng Nghymru, mae'r holl wasanaethau trên wedi eu hatal oni bai am rai gwasanaethau cyfyngedig yn y de.
Cafodd y streic gyntaf ei gynnal ddydd Llun gan arwain at olygfeydd o orsafoedd trenau gwag ar hyd y wad.
Bydd diwrnod olaf y streicio yn digwydd ddydd Sadwrn ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio am oedi ar y rhwydwaith drwy gydol yr wythnos.
Mae Llywodraeth y DU a Chadeirydd Grŵp Darparu'r Rheilffyrdd wedi galw ar Undeb RMT i ddod â'r streic fwyaf ers y 1970au i ben.
Dywed RMT eu bod nhw'n awyddus i drafod er mwyn dod o hyd i ddatrysiad.
Llun: Trafnidiaeth Cymru