Trychineb y Nicola Faith: Addasu cwch 'wedi lleihau ei sefydlogrwydd'
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cyhoeddi adroddiad i sut y gwnaeth cwch y Nicola Faith suddo gan achosi tair marwolaeth ym mis Ionawr y llynedd.
Aeth Ross Ballantine, Carl McGrath ac Alan Minard ar goll ar ôl i'w cwch fethu a dychwelyd yn ôl i harbwr Conwy wedi hanner nos ar 27 Ionawr.
Fe wnaeth yr adroddiad ddatgan bod y gwch wedi cael ei addasu yn sylweddol ac fe wnaeth hyn leihau ei sefydlogrwydd.
Ar ddiwrnod y ddamwain, roedd y Nicola Faith wedi cael ei llwytho gyda dalfa yn ogystal â chasglu nifer o botiau a wnaeth olygu nad oedd y gwch y sefydlog ac yn sgil hyn, fe wnaeth droi drosodd cyn suddo.
Mae'r adroddiad hefyd yn datgan nad oedd gan y gwch oleufa argyfwng gorfodol ac nad oedd unrhyw adroddiadau ei bod ar goll nes 10:00 y bore wedyn.
Wedi i'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol ei darganfod ar waelod y môr, cafwyd archwiliad manwl i ddarganfod sut y gwnaeth y gwch droi drosodd ac asesiad llawn i sefydlogrwydd y gwch.
Fe wnaeth yr archwiliad ganfod bod y Nicola Faith wedi cael ei weithredu yn anniogel a bod y cyfuniad o'r ddalfa a'r offer pysgota ar fwrdd y gwch wedi golygu ei bod yn ansefydlog.
Er bod offer arnofio ar gael i'r pysgotwyr ar y gwch, nid oedd y criw yn eu gwisgo yn rheolaidd.
'Gall unrhyw gwch fynd yn ansefydlog'
Dywedodd y Prif Arolygydd i Ddamweiniau Morol, Andrew Moll OBE, bod yna "wersi pwysig angen eu dysgu o'r damweiniau hyn a bod angen i gychod bach weithredu a deall hyn.
"Y wers gyntaf ydi bod addasiadau i gwch, oni bai eu bod nhw wedi eu cynllunio yn gywir, yn gallu erydu ei sefydlogrwydd yn sylweddol.
"Yr ail wers ydy y gall unrhyw gwch fynd yn ansefydlog os ydi hi wedi cael ei gorlwytho. Roedd y Nicola Faith wedi cael ei haddasu ac nid oedd yr addasiadau wedi eu cymeradwyo."
Ychwanegodd Mr Moll bod y criw ar ddiwrnod y ddamwain wedi cario eu potiau i ardal newydd ac wedi cario dalfa lawn gyda nhw hefyd, ac yn sgil hyn, roedd eu "pwysau a'r offer pysgota ar fwrdd y gwch yn llawer mwy na beth oedd y gwch yn gallu ei gario."
Fe wnaeth Mr Moll rybuddio hefyd wrth i brisiau tanwydd gynyddu, fod "temptasiwn i gario mwy a gwneud llai o dripiau yn gwneud synnwyr yn economaidd, ond wrth ystyried sefydlogrwydd cwch, gall yr oblygiadau fod yn drychinebus."