Chwyddiant yn cyrraedd uchafbwynt newydd o 9.1%

Chwyddiant yn cyrraedd uchafbwynt newydd o 9.1%
Mae prisiau’n parhau i godi ar eu cyfradd gyflymaf ers 40 mlynedd wrth i gostau petrol, ynni a bwyd barhau i godi.
Roedd chwyddiant y Deyrnas Unedig, sef y gyfradd y mae prisiau’n codi, wedi cynyddu i 9.1% yn y 12 mis hyd at fis Mai, i fyny o 9% ym mis Ebrill, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r ffigwr bellach ar y lefel uchaf ers mis Mawrth 1982, pan oedd ar yr un lefel.
Mae Banc Lloegr wedi rhybuddio y bydd chwyddiant yn cyrraedd 11% eleni.
Wrth ymateb i’r ystadegau newydd dywedodd Rushi Sunak Canghellor y Trysorlys y DU: “Rwy’n gwybod bod pobl yn poeni am gostau byw cynyddol, a dyna pam rydym wedi cymryd camau wedi’u targedu i helpu teuluoedd, gan gael £1,200 i’r wyth miliwn o aelwydydd mwyaf bregus.
“Rydym yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael inni i ddod â chwyddiant i lawr a brwydro yn erbyn prisiau cynyddol – gallwn adeiladu economi gryfach trwy bolisi ariannol annibynnol, polisi cyllidol cyfrifol sydd ddim yn ychwanegu at bwysau chwyddiant, a thrwy hybu ein cynhyrchiant hirdymor.”