HSBC yn cynnig ystafelloedd diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig
HSBC yn cynnig ystafelloedd diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig
Bydd dioddefwyr cam-drin domestig yn gallu defnyddio ‘mannau diogel’ i gael cymorth arbenigol ym mhob un o ganghennau HSBC yng Nghymru.
Mae’r cynllun Safe Spaces yn cynnig rhywle tawel i ddioddefwyr allu cysylltu â gwasanaeth cymorth neu siarad â ffrind neu aelod o’r teulu. Gall pobl hefyd siarad ag aelod o staff sydd wedi cael eu hyfforddi neu gysylltu â'r heddlu lleol os oes angen.
Syniad Hestia, elusen cam-drin domestig ydy'r cynllun Safe Spaces ac fe gafodd ei lansio yng nghanol y cyfnod clo cyntaf.
Mae’r cynllun eisoes ar waith mewn dros 5000 o fferyllfeydd led led Prydain, gyda chwmnïau mawr fel fferyllfeydd Boots, Superdrug, Morrisons a Well, yn ogystal â fferyllwyr annibynnol lleol, yn cymryd rhan.
HSBC UK ydy’r mwyaf o’r banciau stryd fawr i gynnig y gwasanaeth gafodd ei dreialu'n wreiddiol y llynedd yn Southampton.
Mae dros 4,000 o staff ar draws holl ganghennau HSBC yn y Deyrnas Unedig wedi cael hyfforddiant arbenigol.
Gall unrhyw un gerdded i fewn i unrhyw leoliad sy'n cynnig gofod diogel a gadael i aelod o staff wrth y cownter wybod bod angen defnyddio y man diogel.
Dywedodd Dyfrig Roberts, cyfarwyddwr lleol HSBC UK yn Llangefni, eu bod nhw'n "falch o chwarae rhan arwyddocaol wrth dorri'r stigma ynghylch cam-drin domestig.
"Drwy gynnig man diogel yng nghalon ein cymuned leol ni, rydym ni'n gallu helpu dioddefwyr a sicrhau bod ganddyn nhw gymorth arbenigol."
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, sy'n ymgynghorydd anibynnol yn y maes trais yn y cartref, eu bod nhw'n "gwybod gyda’r ddeddf ‘Trais yn y Cartref’ sydd newydd gael ei basio gan San Steffan fod trais economaidd yn cael ei anabod fel rhan allweddol o trais yn y cartref.
“Dwi’n credu beth sydd hefyd yn arwyddocaol o’r cynllun yma – y Safe Space yw fod dim stigma gan rhywun i fynd i mewn i banc neu fferyllfa.”
Yn ôl Aelod Seneddol Ynys Mon, Virginia Crosbie, mae'r ffaith bod "dioddefwyr yn gallu creu cyfrif heb gyfeiriad parhaol gyda'r banc yn fantais sylweddol.
"Bydd yn helpu pobl i gael trefn ar eu cyllid tra'n ceisio symud i ffwrdd o'r rhai sydd wedi eu camdrin nhw."