Carcharu saith o bobl am ddosbarthu cyffuriau gwerth £5m yn y de

Mae saith o bobl wedi eu carcharu am gyfanswm o dros 54 o flynyddoedd am gyflenwi cocên, heroin, amffetaminau a chanabis gwerth £5m yn ne Cymru.
Roedd nifer o'r rhai gafodd eu carcharu gyda dryllaiu a bwledi yn eu meddiant pan gawsant eu harestio.
Mae'r heddlu'n amcangyfrif fod aelodau'r giang troseddol wedi dosbarthu 70 cilogram o gocên, 30 cilogram o heroin, 96 cilogram o amffetaminau ag 19 cilogram o ganabis fel rhan o'u gweithgareddau.
Fe ymddangosodd y saith yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun gan dderbyn cyfnodau o garchar am ddosbarthu cyffuriau dosbarth A a B ac am droseddau yn ymwneud a bod â drylliau yn eu meddiant.
Derbyniodd Jay Abdul, 39, o'r Barri, 19 mlynedd a chwe mis o garchar.
Derbyniodd Aysha Ali, 36, o Birmingham, bedair blynedd a chwe mis o garchar.
Fe gafodd Neesha Ali, 40, o ardal Cathays yng Nghaerdydd dair blynedd a naw mis o garchar.
Cafodd Ryan Hales, 28, o Benarth, 11 mlynedd a thri mis o garchar.
Derbyniodd Marc Harris, 31, o'r Barri ddedfryd o saith mlynedd a phedwar mis o garchar.
Cafodd Naisha Hembury, 35, a hefyd o'r Barri, 22 mis o garchar wedi ei ohirio am 18 mis.
Derbyniodd Max Smith, 25, o Benarth ddedfryd o bum mlynedd a thri mis o garchar.
Darllenwch y stori'n llawn yma.