Newyddion S4C

Rhanbarth y Dreigiau yn cyhoeddi prif hyfforddwr newydd

21/06/2022
Dai Flanagan

Mae'r Dreigiau wedi cyhoeddi y bydd Dai Flanagan yn ymuno â'r clwb fel Prif Hyfforddwr ar gyfer tymor 2022/2023.

Mae Flanagan yn ymuno o'r Scarlets, lle mae e wedi bod yn rhan o'r tîm hyfforddi yno ers wyth mlynedd.

Ers 2019, Dean Ryan sydd wedi bod yn brif hyfforddwr ar y Dreigiau.

Dywedodd Flanagan: "Rwy'n gyffrous i fod yn ymuno â'r Dreigiau a rhoi fy marc ar y tîm a sut rydym yn chwarae. 

"Rwy'n awyddus i adeiladu ar y seilwaith sydd wedi ei roi yn ei le ac i ehangu a datblygu ein perfformiadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.