Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Mae rhestr fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 wedi ei chyhoeddi.
Mae'r wobr yn cynnwys gwaith llenyddol mewn pedwar categori: Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc.
Cafodd y rhestr fer ei chyhoeddi ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru nos Lun.
Fe ddarllenodd y beirniaid dros 70 o lyfrau cyn llunio'r rhestr fer.
Gwobr Farddoniaeth
Cawod Lwch, Rhys Iorwerth (Gwasg Carreg Gwalch)
Merch y llyn, Grug Muse (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Stafelloedd Amhenodol, Iestyn Tyne (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Dod Nôl at fy Nghoed, Carys Eleri (Y Lolfa)
Eigra: Hogan Fach o’r Blaena, Eigra Lewis Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Paid â Bod Ofn , Non Parry (Y Lolfa)
Gwobr Ffuglen Cymraeg
Hannah-Jane, Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Hela, Aled Hughes (Y Lolfa)
Mori, Ffion Dafis (Y Lolfa)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
Gwag y Nos, Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Pam?, Luned Aaron a Huw Aaron (Y Lolfa)
Y Pump (Y Lolfa)
Tim – Elgan Rhys a Tomos Jones
Tami – Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse
Aniq – Marged Elen Wiliam a Mahum Umer
Robyn – Iestyn Tyne a Leo Drayton
Cat – Megan Angharad Hunter a Maisie Awen
Bydd enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o raglenni ar BBC Radio Cymru rhwng 19 a 21 Gorffennaf.