Newyddion S4C

Pentre Ifan

Lansio ymgyrch i atal troseddau treftadaeth yng Nghymru

NS4C 21/06/2022

Mae’r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru wedi dod at ei gilydd er mwyn cynnal ymgyrch er mwyn ceisio lleihau troseddau treftadaeth ar hyd a lled y wlad.

Mae troseddau treftadaeth yn niweidio safleoedd ac asedau hanesyddol, ac yn cynnwys canfod metel yn anghyfreithlon, neu ddwyn o safleoedd archeolegol gyda’r nos, neu gyrru cerbydau ar safleoedd o’r fath.

Ymgyrch Treftadaeth Cymru yw'r fenter gyntaf o’i math yn y DU, a’r nod yw codi ymwybyddiaeth ac atal troseddau treftadaeth ar hyd a lled y wlad.

Dywedodd yr Arolygydd Reuben Palin o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae pobl yn haeddiannol falch o’u treftadaeth, ond yn anffodus, mae lleiafrif sydd ddim yn rhoi’r parch mae’n haeddu iddi.

“Mae troseddau treftadaeth yn fater difrifol sy’n medru cael effaith negyddol difrifol ar ein cymunedau.  

“Ni ellir disodli ein treftadaeth a’r darnau bach o hanes sy’n cael eu dymchwel neu eu colli i droseddau treftadaeth, felly rydyn ni eisiau gwneud i bobl feddwl am eu gweithredoedd ac annog unrhyw un i beidio â gweithredu yn y fath modd.”  

Ymgyrch aml-asiantaeth

Bydd timoedd heddlu’n gweithio gyda CADW, Llywodraeth Cymru, Adnoddau Naturiol Cymru, Parciau Cenedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymddiriedolaethau archeolegol a gwirfoddolwyr amrywiol ledled y sector i weithio tuag at ddealltwriaeth well o droseddau treftadaeth.

I gyd-fynd â’r lansiad, mae cadetiaid heddlu ledled Cymru’n cael eu hyfforddi mewn troseddau treftadaeth, ynghyd â thimoedd Plismona Bro a Throseddau Gwledig.

Dywedodd Dr Richard Lewis, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Ein treftadaeth sy’n gyfrifol am bwy ydym ni, felly mae’n hollbwysig ein bod ni’n gwarchod y tirnodau a’r tirweddau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Efallai bod y troseddau hyn yn ymddangos yn fân i’r sawl sy’n rhan ohonynt, ond dydyn nhw ddim. Mae unrhyw beth sy’n cael ei gymryd neu ei ddifrodi pan mae troseddau treftadaeth yn cael eu cyflawni’n anadnewyddadwy, felly unwaith maen nhw wedi mynd, maen nhw ar goll am byth.  

“Fel heddluoedd, yr ydym yn dangos ein hymrwymiad i’r mater hwn, felly yr ydym yn gobeithio bydd y cyhoedd yn ein cefnogi drwy fod yn llygaid a chlustiau inni, ac yn adrodd amdano pan maen nhw’n gweld pobl yn cyflawni troseddau treftadaeth.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.