
Trenau Cymru'n dod i stop wrth i deithwyr deimlo effaith y streic
Trenau Cymru'n dod i stop wrth i deithwyr deimlo effaith y streic
Mae'r rhan fwyaf o drenau Cymru wedi dod i stop ddydd Mawrth o ganlyniad i streic gan weithwyr undeb yr RMT.
Dyma’r streic rheilffyrdd fwyaf ers degawdau ac mae disgwyl i nifer sylweddol o deithwyr yng Nghymru ac ar draws y DU wynebu trafferthion teithio.
Yn dilyn trafodaethau munud olaf ddydd Llun, roedd arweinwyr undeb RMT wedi cadarnhau y bydd eu haelodau yn streicio ar ôl methu datrys anghydfod dros gyflog, swyddi ac amodau gwaith.
Er nad oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a’r RMT, mae'r anghydfod yn golygu na fydd Trafnidiaeth Cymru'n gallu gweithredu eu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.
Bydd mwyafrif y gwasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal, ac eithrio gwasanaethau ar Linellau Craidd y Cymoedd (CVL) i’r gogledd o Radur yn y de.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Mick Lynch: “Er gwaethaf ein hymdrechion gorau ni lwyddwyd i gael cytundeb gweithredol ar yr anghydfod.”
Bydd miloedd o weithwyr ar streic ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn ond mae oedi yn debygol ar y rhwydwaith drwy gydol yr wythnos.

'Dyw cyflogwyr ddim yn grand'
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C dywedodd Siân Gale o gynllun undebol CULT Cymru: “Dyw pobl ddim am streicio. Dyna’r peth olaf maen nhw eisiau gwneud.
“Pam mae pobl yn streicio maen nhw’n colli arian, ond does dim byd yn digwydd. Dyw cyflogwyr ddim yn gwrando ar hyn o bryd a dyna’r un peth sydd ar agor i bobl.
“Mae costau byw yn mynd i fyny, mae tanwydd, mae costau egni yn mynd i fyny. Mae pobl yn gorfod dewis rhwng bwydo eu plant a thwymo eu catrefi. Ac mae o am fynd yn waeth hyd yn oed yn yr hydref, felly mae’n rhaid i rywbeth wella ac mae rhaid i bethau newid.
“Gobeithio bydd cyflogwyr a'r llywodraeth yn San Steffan yn dechrau gwrando er mwyn i ni allu gweithio hyn allan gyda’n gilydd.”
Yn ôl Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU Grant Shapps mae’r streiciau yn “gamsyniad enfawr” fydd yn “cosbi miliynau o bobl ddiniwed".
Mae Mr Shapps wedi galw ar yr undeb i ildio er mwyn helpu'r rheiny sy’n dibynnu ar y rhwydwaith drenau.
Mae Grŵp Darparu'r Rheilffyrdd wedi galw ar arweinwyr undeb RMT i beidio â pharhau â'r streicio.