Ymgyrch newydd i hybu'r Wyddeleg tu hwnt i'w hardaloedd traddodiadol

Mae ymgyrch newydd yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi ei lansio er mwyn ceisio hybu'r defnydd o'r iaith Wyddeleg tu hwnt i ardaloedd traddodiadol y Gaeltacht.
Gobaith yr ymgyrch yw y bydd cymunedau newydd yn defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd gan greu cynlluniau ieithyddol penodol yn yr ardaloedd hyn.
Cafodd y cynllun ei lansio yn Letterkenny ddydd Llun, ac mae'r wyth ardal dan sylw yn cynnwys Ennis, Clondalkin a gorllewin Belfast yng Ngogledd Iwerddon.
Darllenwch ragor yma.