Cau man parcio lleol yn Sir Benfro
20/06/2022
Bydd man parcio yn Hwlffordd yn cau yn barhaol o ddydd Llun, 20 Mehefin ymlaen.
Bydd y safle yn parhau ar gau nes y bydd y prosiect ar gyfer creu'r Man Trafnidiaeth Cyhoeddus newydd yn cael ei gwblhau.
Mae'r fenter i greu Man Trafnidiaeth Cyhoeddus newydd yn rhan o gynllun Cyngor Sir Benfro i adnewid tref Hwlffordd gan fod y maes parcio presennol mewn cyflwr gwael a ddim ar gael i'w ddefnyddio yn hawdd gan gerbydau mwy.
Bydd siopau a busnesau yn parhau yn agored ar gyfer y cyhoedd. Mae creu maes parcio newydd yn rhan o'r cynllun gan y cyngor i deithwyr ddefnyddio'r orsaf bws gan annog pobl i fwynhau canol y dref.