Newyddion S4C

Cymru trwodd i rownd derfynol Cwpan Dartiau’r Byd

19/06/2022
Gerwyn Price a Jonny Clayton

Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Dartiau'r Byd yn yr Almaen.

Fe gurodd y ddau Yr Iseldiroedd 2-0 nos Sul i symud ymlaen i rownd olaf y gystadleuaeth yn Frankfurt.

Daw hyn ar ôl i’r ddau guro Awstria brynhawn Sadwrn a’r Almaen brynhawn Sul.

Fe enillodd y ddau'r gystadleuaeth yn 2020 a nhw yw'r ail ddetholion yn y gystadleuaeth hon.

Roedd y gêm yn erbyn Awstria yn agos iawn ond llwyddodd y ddau Gymro i godi’u gêm ddydd Sul yn erbyn yr Almaen gan ddangos yr un angerdd yn hwyrach yn erbyn Yr Iseldiroedd.

Bydd Cymru yn wynebu Awstralia yn y rownd derfynol yn hwyrach nos Sul.

Llun: World Cup of Darts

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.