Ymweliad Gŵyl Ffilm Garibïaidd Windrush â Chymru yn dirwyn i ben
Mae ymweliad Gŵyl Ffilm Garibïaidd Windrush â Chymru yn dod i ben ddydd Sul.
Mae'r ŵyl wedi ymweld â Chanolfan Theatr a Chelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd - yr unig leoliad yng Nghymru i gynnal yr ŵyl.
Thema'r ŵyl eleni sy'n ymweld â Chasnewydd yw "O Ymerodraeth i'r Gymanwlad: Gwaddol Cenhedlaeth Windrush".
Fe ddaeth llong Empire Windrush, oedd yn cario tua 500 o deithwyr o Jamaica, i Ddoc Tilbury ar 22 Mehefin 1948.
Mae trefnwyr yr ŵyl yn dweud ei bod yn taflu goleuni ar gyfraniadau'r arloeswyr gwreiddiol a ddaeth i Brydain yn ystod y 1940au.
Yn ôl y trefnwyr, mae'r ŵyl hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad disgynyddion cenhedlaeth Windrush a'u cyfraniad i'r gymdeithas gyfoes.
Roedd ffilmiau'r penwythnos yn cynnwys 'Pressure' sef ffilm nodwedd ddu gyntaf Prydain ac 'A Raisin in the Sun' sef ffilm o'r ddrama gyntaf gan fenyw ddu i gael ei pherfformio ar Broadway.
Dywedodd Danielle Rowlands, Swyddog Addysg a Chyfrannu'r Riverfront ei bod yn "wrth ei bodd" fod y ganolfan wedi ei dewis fel lleoliad Cymreig yr ŵyl eleni.
"Ar Lan yr Afon rydym yn gweithio gyda chymuned hynod amrywiol ac rydym yn ddiolchgar iawn i fod mewn partneriaeth â Canolfan Ffilm Cymru a Cinema Golau ac i anrhydeddu ein cymuned Caribïaidd trwy ddathlu a choffáu rhan mor bwysig o'u hanes."