Partygate: 63% o bleidleiswyr Cymru yn meddwl y dylai Boris Johnson ymddiswyddo

Mae 63% o bobl yng Nghymru yn meddwl y dylai Boris Johnson ymddiswyddo, yn ôl arolwg barn newydd.
Mae hyn yn ostyngiad pellach o bum pwynt canran ers yr arolwg diwethaf yn dilyn cyfnod heriol i'r prif weinidog yn sgil derbyn dirwy am barti yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
Fe wynebodd bleidlais o ddiffyg hyder bron i bythefnos yn ôl, gyda'r mwyafrif o Aelodau Seneddol ei feinciau ei hun yn pleidleisio i'w gefnogi i aros yn ei rôl.
Yn ôl yr arolwg gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, geiriau fel “celwyddog” oedd y gair mwyaf poblogaidd i ddisgrifio Mr Johnson gyda “twpsyn” a “buffoon” yn dilyn yn agos.
Mewn ymateb i gwestiwn tebyg am Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, roedd yr atebion yn cynnwys “Cymreig”, “diflas” ac “ymddiriedaeth” ymhlith yr atebion poblogaidd.
Mae’r arolwg yn dangos hefyd nad oes llawer o symud wedi bod ym mwriad pobol wrth bleidleisio am etholiadau San Steffan.
Mae gan Lafur 15 pwynt o fantais dros y ceidwadwyr pe bai hynny'n digwydd yn yr etholiad yna byddai’r ceidwadwyr yn colli'r rhan helaeth o’r seddi a enillon nhw yn etholiad 2019.
Ond yn yr etholiad nesaf bydd seddi Cymru yn cael eu gostwng o 40 i 32.
Bwriad pleidleisio San Steffan:
- Llafur 41%
- Ceidwadwyr 26%
- Plaid Cymru 16%
- Democratiaid Rhyddfrydol 7%
- Eraill 10%
Dywedodd Dr Jac Larner darlithydd mewn gwleidyddiaeth yng Nghanolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd: “Mae rhifau Boris Johnson yn dal i gwympo, gyda 63% o’r rhai wnaeth ateb yn meddwl ddylsai ymddiswyddo.
"Bydd Mark Drakeford yn hapusach gyda'r rhan fwyaf yn cytuno eu bod nhw’n gallu ymddiried ynddo a’i fod yn gymwys ac yn bendant.”
Cafodd arolwg "Barn Cymru" ei gynnal gan YouGov ar gyfer ITV Cymru/Prifysgol Caerdydd, gyda sampl gynrychiadol o 1,020 o bleidleiswyr 16+ rhwng 12 a 16 Mehefin 2022.