Rhybudd teithio ar drothwy penwythnos prysur i Gaerdydd

17/06/2022
Caerdydd

Mae pobl sydd yn bwriadu teithio i Gaerdydd ar gyfer nifer o ddigwyddiadau mawr wedi eu rhybuddio i adael digon o amser a pharatoi o flaen llaw.

Fe fydd Tafwyl yn dychwelyd ar ôl cyfnod yn pandemig, ac artistiaid fel Tom Jones a'r Stereophonics yn diddanu cynulleidfaoedd mewn cyngherddau hefyd.

Mae disgwyl hyd at 60,000 o bobl i deithio i'r brifddinas dros y penwythnos.

Mae'r Urdd hefyd yn cynnal eu Gemau Stryd cyntaf yn y bae, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio na fydd Gorsaf Heol y Frenhines ar agor nos Wener a nos Sadwrn o ganlyniad i'r digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal.

Mae system giwio mewn grym ar gyfer gorsaf Caerdydd Canolog hefyd.

Roedd cryn feirniadaeth o drefniadau teithio yn y brifddinas dros yr wythnosau diwethaf wrth i filoedd heidio yno ar gyfer cyngerdd Ed Sheeran a'r gém bêl-droed fawr rhwng Cymru a Wcráin.

Yn ôl Pennaeth Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid Trafnidiaeth Cymru, Lowri Joyce, fe fydd gymaint o wasanaethau ar gael â sy'n bosib dros y penwythnos prysur i ddod. 

"Mae'r holl drenau sydd ar gael allan ar y rhwydwaith a hefyd 'dan ni'n rhedeg gwasanaethau ychwanegol," meddai wrth Newyddion S4C.

"A 'dan ni hefyd yn darparu gwasanaethau bws ychwanegol i gefnogi'r gwasanaeth trenau sy'n rhedeg hefyd.

"Felly dwi meddwl penwythnos hwn bydd 'na llawer fwy o opsiynau i gymharu â phenwythnos diwethaf." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.