'Dim yn ddiogel i fynd i Qatar' medd cefnogwyr LHDT+ Cymru

'Dim yn ddiogel i fynd i Qatar' medd cefnogwyr LHDT+ Cymru
Wrth i faner Cymru gael ei chodi yn Qatar o flaen Cwpan y Byd, mae aelodau LHDT+ o'r Wal Goch yn dweud ni fyddant yn teithio i'r wlad er mwyn cefnogi'r tîm.
Mae Cymru wedi gwireddu breuddwyd trwy gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 ar ôl curo Wcráin ddechrau'r mis.
Ond serch y canlyniad hanesyddol, mae nifer wedi codi pryderon dros deithio i Qatar o achos record hawliad dynol y wlad ag agweddau tuag at fenywod a phobl LHDT+.
Bellach mae'r Wal Enfys, grŵp cefnogwyr LHDT+ Cymru, wedi dweud y byddant yn osgoi teithio i'r gystadleuaeth.
Mae Seiriol Dawen-Hughes yn gefnogwr brwd o Gymru a hefyd yn gweithio i raglen Sgorio.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C nad yw teithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd byth wedi bod yn bosibilrwydd iddo.
"Wel, mae yn erbyn y gyfraith a dyw hi ddim yn ddiogel i fi fynd i Qatar, dyna’r sefyllfa yn syml," meddai.
"Wrth gwrs mae’r freuddwyd wedi dod yn wir, mae Cymru yno, ond taswn i’n cael y cynnig i weithio yno neu’n meddwl mynd fel cefnogwr, dyw e ddim yn opsiwn.
"Dyw e ddim yn saff, dyw e ddim yn gyfreithlon i fi fod yno."
Yn ôl Seiriol, mae cynnal y gystadleuaeth yn Qatar yn enghraifft o 'sportswashing.'
'Sportswashing' yw'r disgrifiad o wledydd anddemocrataidd yn cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon byd-eang er mwyn gwella eu henw da yn rhyngwladol.
"Hwn dwi’n meddwl yw y goron ar ‘sportwashing’," meddai Seiriol.
"Tasai hwn yn Gwpan y Byd merched, byddai cyfran helaeth o garfan Cymru ddim yn gallu chwarae yn y gystadleuaeth.
"Mae o’n hollol rong bod hwn yn digwydd. Dwi ’di dweud ers y cychwyn pan gyhoeddwyd mai hwn oedd y lleoliad, a dwi dal yn ei gredu e nawr."