Lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn ger Pontypridd
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn darganfyddiad corff dyn mewn cyfeiriad yng Nglyncoch ger Pontypridd.
Fe gafodd y corff ei ddarganfod gan gymydog am tua 11:00 ddydd Mercher, 15 Mehefin.
Mae'r corff bellach wedi ei adnabod fel Steven John Davies a oedd yn 39 oed.
Yn dilyn adroddiad post-mortem, daeth cadarnhad ei fod wedi marw ar ôl cael ei drywanu.
Mae dynes 34 oed o Bontypridd wedi ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis bod y digwyddiad yn "hynod o drist ac yn sioc i gymuned Glyncoch ac ardal ehangach Pontypridd.
"Mae ein meddyliau ni gyda theulu Steven a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd yma."
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu yn syth gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200200167.