Newyddion S4C

Pobl ar incwm isel yn byw mewn ardaloedd gyda lefelau uwch o lygredd aer

S4C

Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod pobl sydd ar incwm isel yng Nghymru yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd lle mae lefelau uwch o lygredd aer.

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi nodi’r holl ardaloedd yng Nghymru sydd â gormodedd o nitrogen ocsid (NO2) yn yr aer.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod pobl o dras ethnig lleiafrifol bum gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd gyda lefelau uchel o nwyon nitrogen ocsid.

Dywedodd Joseph Carter, cadeirydd Aer Iach Cymru: “Mae’r ymchwil newydd hwn yn ysgytwol ond nid yw’n syndod.

“Mae gan bawb yr hawl i anadlu aer iach. Ni ddylai fod ag unrhyw beth i'w wneud â ble rydym yn byw, faint o arian rydym yn ei ennill, ein cefndir ethnig, neu unrhyw beth arall."

Darllenwch y stoir'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.