Adam Price yn trafod ymgais i ladd ei hun yn ystod cyfnod o anobaith dwys

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru wedi siarad yn agored am ei ymgais i ladd ei hun yn ystod cyfnod o anobaith dwys.
Dywedodd y gwleidydd ei fod wedi teimlo “bod dim ffordd allan” yn ystod cyfnod tywyll yn ei fywyd yn y 1990au fel dyn ifanc hoyw.
Mewn cyfweliad â Pink News, eglurodd ei fod wedi profi cyfnod o iselder dwys lle'r oedd eisiau cyflawni hunanladdiad.
“Rwy’n cofio cerdded adref o ganol y dref (Caerdydd) gyda fy llygaid ar gau, gan obeithio y byddwn yn cael fy nharo i lawr gan gar.
“Gan na allwn ddod o hyd i ffordd allan, doeddwn i ddim yn gallu gweld ffordd i hapusrwydd. Doedd gen i ddim role model, yn y bôn cefais fy nysgu i gael teimlad dwfn o gywilydd.
“Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i yma heddiw,” ychwanegodd y tad i ddau.
Mae bron i dri o bob pedwar o bobl LHDT+ rhwng 11 a 18 oed yng Nghymru wedi profi meddyliau am ddiweddu eu bywyd, yn ôl yr elusen ieuenctid Just Like Us.
Mae Mr Price wedi galw ar y llywodraeth i wneud mwy i amddiffyn ac agor mwy o fannau sy'n eiddo i'r gymuned LHDT+ yn ogystal â chynnig gwasanaethau iechyd meddwl mwy arbenigol.
“Rwy’n meddwl mai’r gwir yw ein bod wedi dioddef trawma, rydym yn delio â phoen. Mae trawma yn ein llethu ac mae llawer ohonom sy’n tyfu i fyny yn hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu draws yn gwybod yn union beth rwy’n ei olygu wrth hynny,” meddai.
Darllenwch ragor yma.