Newyddion S4C

Priti Patel yn 'siomedig' fod hediad ceiswyr lloches i Rwanda wedi ei chanslo

Sky News 15/06/2022
Priti Patel

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi dweud ei bod yn "siomedig" fod hediad i gludo ceiswyr lloches i Rwanda wedi ei chanslo.

Roedd yr hediad alltudo cyntaf fod gadael nos Fawrth ond fe gafodd ei chanslo yn dilyn sawl apêl munud olaf.

Dywedodd ffynhonnell yn y Swyddfa Gartref wrth Sky News na fyddai'r awyren oedd yn barod i adael y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Boscombe Down, Amesbury, yn gadael wedi "ymyrraeth munud olaf gan Lys Hawliau Dynol Ewropeaidd".

Ond fe ddywedodd Ms Patel y byddai'r llywodraeth yn "gwneud y peth iawn ac yn darparu ein cynlluniau i reoli ffiniau ein cenedl".

Mae'r cynllun wedi ei feirniadu gan nifer o wleidyddion a ffigyrau crefyddol, yn ogystal â'r Tywysog Siarl.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol Yvette Cooper nad oedd pwynt i'r llywodraeth "roi'r bai ar neb ond eu hunain".

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ei bod yn "gywilydd o ran Llywodraeth y DU" fod angen i Lys Hawliau Dynol Ewropeaidd gwestiynu'r polisi.

Mwy yma.

Llun: Llywodraeth y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.