Difrod eto i gofeb Hedd Wyn
Difrod eto i gofeb Hedd Wyn
Mae siom a dicter ym mhentref Trawsfynydd yng Ngwynedd unwaith yn rhagor wedi i baent gael ei daflu dros gofeb y bardd Hedd Wyn.
Cafodd y gofeb ei difrodi naill ai nos Sadwrn Mehefin 11, neu yn ystod oriau man fore Sul.
Dyma'r eildro i hynny ddigwydd yn y 10 mis diwethaf.
Dywedodd Helen Wyn Jones, o Gyngor Cymuned Trawsfynydd na allai gyfleu mewn geiriau sut roedd hi'n teimlo ar ôl gweld y fandaliaeth.
" Mae'n gywilyddus ac yn dangos diffyg parch " meddai
Yn ôl y cynghorydd sir lleol, Elfed Roberts, fandaliaeth bur yw hyn.
" Pwy ’sa eisiau difrodi cerflun Hedd Wyn ym mhentref heddychlon Trawsfynydd a creu ffasiwn fandaliaeth?
" Ychydig o fisoedd sydd ’na ers i aelodau’r cyngor cymuned llnau’r garreg ar ôl difrod tro blaen gan fandaliaid. Ac mae hyn ’di digwydd dwywaith o fewn hanner blwyddyn am ddim rheswm o gwbl.
" Mae’n pobl ifanc ni yn Trawsfynydd yn gwybod hanes Hedd Wyn, a fedra i’m credu bod neb lleol ’di gwneud fasiwn beth. Os ’dach chi ’di gwneud, dowch ymlaen a cyfaddwch y peth, ac os ’dach chi’n gwybod am rywun neu ryw syniad o beth ’sdi digwydd, cysylltwch â’r cyngor cymuned neu’r heddlu fel bod ni’n cael dal pwy ’sdi gwneud ffasiwn beth. "
Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r Gogledd iddyn nhw dderbyn galwad toc ar ôl 11 o'r gloch, fore Sul Mehefin 12, yn nodi bod paent wedi ei daflu dros y gofeb. Mae'n nhw'n galw ar unrhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod B085354.’