Digwyddiadau i gofio 40 mlynedd ers diwedd Rhyfel y Falklands
Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ddydd Mawrth i gofio 40 mlynedd ers diwedd Rhyfel y Falklands.
Bydd digwyddiad i gofio diwedd y rhyfel yn cael ei gynnal yng Nghoedardd Goffa Genedlaethol yn Sir Stafford, gyda chyn-filwyr a'u teuluoedd ymhlith y rhai fydd yn bresennol.
Fe fydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd gwasanaethau arbennig yng Nghymru hefyd, gan gynnwys yn Abertawe a Llandudno.
Fe fydd Gwasanaeth Goffa Cenedlaethol Cymru yn cael ei gynnal nos Iau.
Wrth nodi 40 mlynedd ers diwedd y rhyfel, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies ei fod yn "falch" o ran y Gwarchodlu Cymreig yn yr anghydfod.
Today, we mark the 40th anniversary of the Falklands War, remembering the brave men and women who fought and died protecting the sovereign right of the islanders to decide their own destiny.
— Andrew RT Davies (@AndrewRTDavies) June 14, 2022
I am immensely proud of the Welsh Guards who played a vital role in the conflict.🏴🇬🇧🇫🇰
Bu farw 225 o filwyr o Brydain a 649 o filwyr o'r Ariannin yn ystod y rhyfel a barhaodd am 74 diwrnod.
Mae'n un o'r rhyfeloedd mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.
Llun: Y Lleng Brydeinig