Newyddion S4C

Datganoli darlledu i Gymru 'gam yn nes' wrth gyhoeddi panel arbenigol

14/06/2022
Darlledu / Radio

Mae datganoli pwerau dros ddarlledu a'r cyfryngau "gam yn nes" ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi panel o arbenigwyr ar y pwnc ddydd Mawrth.  

Daw'r cyhoeddiad fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru.

Mae datganoli grymoedd yn y maes i Fae Caerdydd wedi bod yn un o brif bolisïau Plaid Cymru ers nifer o flynyddoedd.

Yn ôl y llywodraeth, fe fydd y panel yn gyfrifol am ddarparu cynigion ac opsiynau i helpu i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru.

Bydd y panel hefyd yn chwarae ei ran wrth ddatblygu fframwaith reoleiddio'r cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol yng Nghymru.

Byddai'r Awdurdod yn gyfrifol am grynhoi tystiolaeth gref i gefnogi'r achos dros ddatganoli pwerau darlledu i Lywodraeth Cymru.

Y darlledwr Mel Doel a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones fydd yn cyd-gadeirio'r panel.

Fe fydd y panel hefyd yn cynnwys Nia Ceidiog, Dr Llion Iwan, Arwel Ellis Owen, Ceri Jackson, Clare Hudson, Dr Ed Gareth Poole, Richard Martin, Geoff Williams, Shirish Kulkarni a Carwyn Donovan.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Rwy'n falch iawn y gallwn heddiw gyhoeddi aelodau'r panel arbenigol a all, gyda'u cyfoeth o brofiad a gwybodaeth, ein helpu i edrych ar y gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.

“Ceir consensws nad yw'r fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn diwallu anghenion Cymru a bod angen cymryd camau i ddatblygu fframwaith sy'n fwy addas i'r diben."

Yn ôl yr Aelod Dynodedig Cefin Campbell: “Mae gan hyn y potensial i fod yn ddatblygiad hanesyddol i Gymru, i roi hwb go iawn  i’n democratiaeth. 

"Rydym yn credu y dylai penderfyniadau am faterion darlledu a chyfathrebu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n democratiaeth genedlaethol ifanc, ein hiaith yn ogystal â bywyd cymunedol lleol yn ei holl amrywiaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.