Newyddion S4C

Protestwyr yn galw am reolau llymach ar werthu arfau yn yr UDA

Sky News 12/06/2022
Protestio yn yr UDA

Mae miloedd o bobl wedi protestio mewn dinasoedd ar draws yr UDA yn galw am reolau llymach ar werthu arfau.

Daw'r protestiadau yn dilyn yr ymosodiad angheuol diweddaraf, pan fu farw 19 o blant a dau athro mewn ysgol yn Uvalde, Texas.

Fe gasglodd miloedd o brotestwyr yn Washington i alw ar wleidyddion y wlad i osod rheolau llymach ar werthu arfau.

Dywedodd yr Arlywydd Biden ei fod yn "lled-obeithiol" y byddai'r deddfau yn cael eu cryfhau yn y dyfodol, ond fe fydd sicrhau newid yn dalcen caled mewn gwlad lle mae cymaint yn credu fod arfau yn mynd law yn llaw gyda'u rhyddid.

Dywedodd grŵp o seneddwyr trawsbleidiol ddydd Sul eu bod nhw wedi cytuno ar fframwaith ar gyfer deddfwriaeth posib ar ddiogelwch arfau.

Bydd y mesurau yn cynnwys cefnogaeth i wiriadau cefndir cryfach ar brynwyr o dan 21 oed a rheolau llymach ar brynu arfau anghyfreithlon.

Darllenwch ragor yma.

Llun: Sky News

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.