Gweddillion penglog mewn coedwig yn parhau'n ddirgelwch
Mae cefndir gweddillion penglog gafodd ei ddarganfod mewn coedwig yn Sir Ddinbych yn parhau i fod yn ddirgelwch i'r heddlu, saith mlynedd ers iddo gael ei ddarganfod.
Yn 2015 fe ddaeth dau wersyllwr ar draws y gweddillion tra'n gwersylla yn fforest Clocaenog.
Fyth ers hynny, ac yn dilyn ymchwiliad trylwyr ac oriau o waith yr heddlu, mae'r dirgelwch dros yr achos yn parhau.
Fe wnaeth yr heddlu ail-greu delwedd o'r hyn y mae swyddogion yn ei gredu o sut yr oedd y dyn yn edrych cyn ei farwolaeth, ond hyd yma does dim atebion pendant am y dirgelwch.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Daily Post