Etholiadau Ffrainc: Mwyafrif i Macron?
Ddeufis yn unig ar ol etholiadau arlywyddol Ffrainc, bydd rownd gyntaf etholiadau seneddol y wlad yn cael eu cynnal ddydd Sul.
Fe wnaeth Emmanuel Macron sicrhau'r arlywyddiaeth am yr ail dymor yn olynol ym mis Ebrill wedi iddo guro'r ymgeisydd asgell dde eithafol, Marine Le Pen.
Ond, yr asgell chwith sy'n bygwth y tro hyn.
Mae'r ymgeisydd asgell chwith eithafol, Jean Luc Mélenchon yn arwain carfan o bleidiau'r chwith ac mae ganddyn nhw'r potensial i atal Macron rhag cael mwyafrif yn y Senedd.
Mae Mélenchon eisoes wedi erfyn ar Ffrancwyr i'w ethol yn Brif Weinidog y wlad yn hytrach na bod Emmanuel Macron yn dewis yr un mae'n ddymuno i'w benodi.
Gyda 577 sedd i'w llenwi, mae oddeutu 49 miliwn o Ffrancwyr yn gymwys i bleidleisio ddydd Sul. Os ydyn nhw am ddefnyddio'r bleidlais - mae hynny yn gwestiwn arall.
Yr asgell chwith, yn hytrach na Macron, sydd wedi uno'r Ffrancwyr yn sgil yr etholiadau arlywyddol a gyda dyddiau i fynd, mae'r ras yn agos iawn rhwng y chwith unedig a charfan Macron gan gynyddu'r pryderon na fydd yr arlywydd presennol yn gallu sicrhau mwyafrif yn y Senedd.
Bydd yr ail rownd yn cael ei chynnal wythnos yn ddiweddarach ar 19 Mehefin, ac amser a ddengys os bydd gan Macron y fantais o fod yn y canol rhwng yr esgyll chwith a de'r adeg honno.