Newyddion S4C

mcd

Cwmni sy'n llenwi bwlch McDonalds yn Rwsia yn rhyddhau ei logo newydd

The Moscow Times 10/06/2022

Mae'r cwmni sydd wedi llenwi'r bwlch yn Rwsia ar ôl i McDonalds adael y wlad o achos y rhyfel yn Wcráin wedi dadorchuddio ei logo newydd.

Mae Sistema PBO wedi anfon wyth enw newydd posib i'r awdurdodau er mwyn eu hawdurdodi felly nid oes enw swyddogol i'r gadwyn hyd yn hyn.

Dywed y cwmni fod cefndir gwyrdd y logo yn symbol o safon y cynnyrch fydd ar werth, gyda'r cylch yn cynrychioli byrger a dwy linell felen yn cynrychioli sglodion.

Darllenwch ragor yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.