Pecyn cymorth gwerth £4m i helpu pobl gyda biliau ynni

10/06/2022
Arian Costau Biliau

Bydd £4m o gymorth ariannol ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i aelwydydd "mwyaf agored i niwed" wrth i filiau ynni barhau i gynyddu.

Bwriad y cynllun ydy cynnig cymorth i aelwydydd sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yn ogystal â’r rheiny sydd ddim wedi eu cysylltu â’r prif gyflenwad nwy.

Mae ffigyrau diweddar yn dangos mai pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw yng ngogledd Cymru sydd wedi ei chael hi anoddaf yn y DU, gyda rhai yn gweld 102% o gynnydd yn eu costau.

Mae aelwydydd sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn ne Cymru wedi gweld cynnydd o 94% yn eu ffioedd sefydlog, sef un o'r canrannau uchaf ym Mhrydain.

Wrth i'r argyfwng costau byw ddwyshau, bydd oddeutu 120,000 o bobl sy'n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw yn gymwys i dderbyn o gwmpas 49,000 o dalebau i'w cefnogi medd y llywodraeth.

Gwerth y talebau yn ystod misoedd yr haf fydd £30 a £49 yn y gaeaf.

'Effaith ysgbuol'

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, bod "yr argyfwng costau byw yn cael effaith ysgubol ar bobl yng Nghymru. 

“Heddiw, mae bron i hanner aelwydydd Cymru mewn perygl o’u cael eu hunain mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn hynod frawychus."

Yn ol  pennaeth y Sefydliad Banc Tanwydd, Matthew Cole, bydd y cyllid yn galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n mynd yn oer neu'n llwglyd y gaeaf hwn, pan na allan nhw fforddio rhoi mwy o gredyd yn eu mesurydd nwy a/neu drydan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.