Newyddion S4C

'Effaith sylweddol' os yn lleihau'r nifer o awyrennau sy’n hedfan yn isel dros Ben Llŷn

North Wales Live 09/06/2022
Texan T1

Byddai lleihau’r nifer o awyrennau sy’n hedfan yn isel dros ysgolion yn ystod cyfnod arholiadau yn 'effeithio yn sylweddol' ar hyfforddiant diogelwch cenedlaethol meddai'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Daw hyn wedi i bennaeth ysgol uwchradd ym Mhen Llŷn ac Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, alw am leihad yn y nifer o awyrennau RAF sy'n hedfan wrth i ddisgyblion sefyll eu arholiadau TGAU.

Roedd Ms Saville Roberts wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn os oedd modd i leihau'r awyrennau Texan a oedd yn hedfan yn isel ym Mhen Llŷn ger Ysgol Botwnnog. 

Er hyn, dywedodd llefarydd bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn "ymwybodol o bwysigrwydd arholiadau i ddisgyblion ar draws y wlad ond yn anffodus, byddai lleihau gweithgaredd awyrennau milwrol am ddau fis ger ysgolion yn y DU yn cael effaith sylweddol ar y gallu i hyfforddi'r sawl yr ydym yn dibynnu arnynt am ein diogelwch cenedlaethol."

Darllenwch fwy yma.  

Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.