Yr artist Paula Rego wedi marw'n 87 oed

Sky News 08/06/2022
PR

Mae'r artist dylanwadol y Fonesig Paula Rego wedi marw'n 87 oed.

Yn enedigol o Bortiwgal, fe ddaeth yn amlwg am ei darluniau tywyll oedd yn seiliedig ar straeon tylwyth teg oedd yn aml yn amlygu negeseuon gwleidyddol.

Cafodd ei geni yn Lisbon yn 1935, ac fe ddaeth gorthrwm yr unben Antonio Salazar ar ei mamwlad ac yn enwedig ar fywydau menywod yn thema bwysig yn ei gwaith.

Fe adawodd y wlad honno yn 1976 gan ymgartrefu yn Lloegr.

Bu farw yn Llundain yn dilyn cyfnod o waeledd.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.