Cynlluniau i wneud Cymru yn 'genedl wrth-hiliol' erbyn 2030
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau i wneud Cymru yn "genedl wrth-hiliol" erbyn 2030.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn amlinellu camau i fynd i'r afael â hiliaeth systemig.
Yn seiliedig ar brofiadau pobl Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, mae'r cynllun yn ceisio ystyried sut mae hiliaeth yn dylanwadu ar bolisïau a sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu.
Mae nifer o feysydd wedi'u cynnwys o fewn y cynllun, gan gynnwys iechyd, addysg a diwylliant, lle mae'r Llywodraeth wedi nodi bod angen newid er mwyn bod yn wrth-hiliaeth.
Bydd y cynllun hefyd yn ceisio hybu arweinyddiaeth a chynrychiolaeth o fewn Llywodraeth Cymru ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
Wrth gyhoeddi'r cynllun ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fod y cynllun yn ceisio sicrhau bod profiadau pobl ethnig lleiafrifol yn "cael eu clywed."
“Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol wedi’i seilio ar werthoedd Gwrth-hiliaeth, ac yn galw am gymryd camau o ran ein polisïau a'n ffyrdd o weithio, yn hytrach na rhoi'r baich ar bobl ethnig leiafrifol i weithredu eu hunain," meddai.
"Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau nad mater o ddweud y pethau iawn yn unig yw hyn. Mae’r Cynllun yn alwad i weithredu, yn gynllun all gyflawni o ddifri ar gyfer pobl ethnig leiafrifol."
"Bydd y camau gweithredu a nodir yn y Cynllun yn helpu i hyrwyddo marchnad gyflogaeth decach, system addysg a hyfforddiant decach, sicrhau cyfleoedd a chanlyniadau mwy cyfartal mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol eraill, a sicrhau dinasyddiaeth weithredol.”