Gofal yn 'hollol anaddas' i bobl gyda Covid hir

Mae'r gofal ar gyfer pobl yn y DU sydd yn dioddef Covid hir yn "hollol anaddas", medd Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN).
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS), mae'r nifer o bobl sydd yn dioddef symptomau Covid hir fel blinder, poen yn y cyhyrau a phroblemau anadlu wedi dyblu ers mis Mai 2021 i 2 filiwn.
Mae'r gwasanaeth iechyd wedi sefydlu clinigau arbenigol i drin pobl gyda symptomau ond yn ôl y RCN does dim digon o'r clinigau yma er mwyn ateb y galw cynyddol am driniaeth.
Mae'r coleg wedi rhybuddio bod triniaeth yn amrywio'n eang o ardal i ardal.
Does yna ddim un clinig arbenigol wedi'i sefydlu yng Nghymru ar gyfer cleifion Covid hir.
Darllenwch fwy yma.