Teyrnged i ddyn 20 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn
Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn 20 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd Tafarn yr Heliwr yn Nefyn fod Droy Darroch-York, oedd yn aelod o staff y dafarn, yn "seren" oedd yn "ddoeth tu hwnt ei flynyddoedd."
Dywedodd y datganiad: "Does ddim geiriau i ddisgrifio sut ma’ teulu’r Heliwr yn teimlo ar ôl y newyddion ofnadwy ddoe.
"Mae ein colled yn enfawr, roedd Droy yn gymaint o seren, parod ei wên, annwyl iawn ac yn ddoeth tu hwnt ei flynyddoedd.
"Pleser llwyr oedd dod i’w adnabod a mawr fydd ein colled. Rydym yn meddwl am gariad, teulu a ffrindiau Droy yn ystod yr amser trist yma ac yn anfon nerth a chariad tuag atynt."
Dywedodd rheolwyr y dafarn y bydd ei drysau ar gau am weddill yr wythnos o ganlyniad i'w farwolaeth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car BMW X3 glas a Ford Fusion du ar ffordd y B4354 rhwng Y Ffôr a'r Fron am tua 13.30 ddydd Sadwrn.
Fe gludwyd dyn 57 oed i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod B080679.
Llun: Tafarn yr Heliwr