Newyddion S4C

UEFA yn ymddiheuro am drafferthion cyn gêm pencampwyr Ewrop ym Mharis

03/06/2022
Stade de France

Mae UEFA wedi ymddiheuro i gefnogwyr pêl-droed ar ôl golygfeydd treisgar yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym Mharis.

Dywedodd corff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd na ddylai’r cefnogwyr fod wedi gorfod “profi na thystio i ddigwyddiadau brawychus a thrallodus” yn y cyfnod cyn y gêm.

"Ni ddylai unrhyw gefnogwr pêl-droed gael ei roi yn y sefyllfa honno, a rhaid iddo beidio â digwydd eto," ychwanegodd UEFA.

Roedd oedi o 36 munud cyn i’r gêm ddechrau oherwydd roedd miloedd o gefnogwyr Lerpwl yn methu cael mynediad.

Roedd rhai wedi cwyno fod yr heddlu wedi defnyddio nwy dagrau arnyn nhw.

Dywedodd awdurdodau Ffrainc fod trafferthion oherwydd bod nifer o gefnogwyr Lerpwl wedi prynu tocynnau ffug.

Dydd Mawrth dywedodd UEFA y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.