Teyrngedau i ddau fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abertawe
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau berson 19 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Abertawe ddydd Mawrth.
Roedd Kaitlyn Davies yn dod o Flaenymaes ac roedd Ben Rogers yn dod o Fonymaen.
Dywedodd teulu Kaitlyn fod "ei gwên yn fwy llachar na'r haul ac yn goleuo pob ystafell yr oedd ynddi."
Dywedodd teulu Mr Rogers ei fod yn ddyn ifanc "anhygoel, clyfar, siaradus a doniol.
"Roedd yn berson llawn cariad oedd gydag amser i siarad gyda phawb oedd yn fodlon gwrando sydd yn esbonio pam fod ganddo gymaint o ffrindiau."
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 23:15 ger Garej Northway, Llandeilo Ferwallt.
Roedd un cerbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, sef Alfa Romeo Mito coch oedd yn cludo pedwar person.
Fe gafodd merch 17 oed o Benlan ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau oedd yn cael eu disgrifio fel rhai oedd yn peryglu ei bywyd.
Cafodd bachgen 17 oed o'r Gellifedw ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd.
Mae'r teuluoedd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Bu'r ffordd ar gau am nifer o oriau tra bo ymchwiliadau'n cael eu cynnal.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un a fedrai fod o gymorth gyda'u hymchwiliad i gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod 2200182514.