Y Tywysog Andrew yn profi'n bositif am Covid-19 ac yn methu dathliadau’r Jiwbilî

Mae Palas Buckingham wedi cadarnhau bod y Tywysog Andrew wedi profi'n bositif am Covid-19.
Mae hyn yn golygu na all Dug Efrog fynychu'r gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul ddydd Gwener fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Dywedodd llefarydd ar ran y palas: "Ar ôl gwneud prawf fel rhan o'r profion arferol, mae'r Dug wedi profi'n bositif am Covid ac o'r herwydd, ni fydd yn gallu mynychu gwasanaeth yfory yn anffodus."
Y gred ydy bod y Tywysog wedi gweld y Frenhines yn y dyddiau diwethaf ond heb ei gweld ers iddo brofi'n bositif.
Ni wnaeth ymddangos ar falconi'r palas fel rhan o'r dathliadau ddydd Iau ar ôl i'r Frenhines benderfynu mai dim ond aelodau o'r teulu sy'n gweithio a fyddai'n cael ymddangos.
Darllenwch fwy yma.