Cymry'r West End wedi cyrraedd rowndiau cynderfynol Britain's Got Talent
Mae perfformwyr Cymry’r West End wedi cyrraedd rowndiau cynderfynol y sioe deledu Britain’s Got Talent ar ITV.
Roedd criw Welsh of the West End wedi swyno’r gynulleidfa a’r beirniaid yn eu clyweliad cyntaf drwy ganu eu haddasiad o'r gân From Now On o’r ffilm The Greatest Showman.
Bydd Welsh of the West End i’w gweld yn perfformio’n fyw ar y rhaglen nos Wener am 20:00, cyn cael gwybod os y byddan nhw'n mynd drwodd i’r rownd derfynol.
Mae’r criw wedi ffurfio ers dwy flynedd ac yn perfformio caneuon allan o sioeau cerdd adnabyddus fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.
Ymysg y cantorion i berfformio fel rhan o Welsh of the West End mae Steffan Rhys, Sophie Evans, Luke McCall a Mared Williams.
Yn ystod y cyfnod clo, roedd y criw yn perfformio ar-lein ac fe wnaethon nhw ddenu dros 15 miliwn o wylwyr.
Yn gynharach eleni roedd y criw yn perfformio yn y Royal Albert Hall gyda Syr Bryn Terfel a Cherddorfa Gyngerdd y BBC.