'Angen gwneud mwy' i reoli brech y mwncïod medd Sefydliad Iechyd y Byd

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio bod angen gwneud mwy i reoli ymlediad brech y mwncïod wrth i nifer yr achosion gynyddu.
Mae brech y mwncïod wedi bodoli yng ngorllewin neu ganolbarth Affrica ers tro, ond mae wedi bod yn lledaenu yng ngwledydd Ewrop dros yr wythnosau diwethaf, yn enwedig yn y Deyrnas Unedig.
Bellach mae 190 o achosion o'r afiechyd wedi'u cofnodi yn y DU, gydag un achos wedi'i ddarganfod yng Nghymru.
Mae ymlediad yr haint yn y DU wedi sbarduno Sefydliad Iechyd y Byd i alw am fesurau pellach i reoli'r afiechyd ac arafu'r niferoedd o heintiadau.
Nid yw Sefydliad Iechyd y Byd yn awgrymu y dylid cyflwyno cyfyngiadau llym yn debyg i'r rhai gafodd eu defnyddio i reoli Covid-19, ond yn galw ar bobl sydd yn mynychu digwyddiadau mawr i fod yn ymwybodol o'r haint.
Darllenwch fwy yma.