Teyrngedau i gyn Faer Llambed, Hag Harris

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn Faer tref Llambed, fu farw’n sydyn fore Mawrth.
Roedd y Cynghorydd Hag Harris yn 66 oed.
Wrth gofio Mr Harris, cafodd ei ddisgrifio fel “cymeriad hoffus, llysgennad dros y Gymraeg, gwleidydd craff a chefnogwr ffyddlon dros fuddiannau lleol” ar wefan Golwg 360.
Yn gyn Faer Llambed ar sawl achlysur, roedd yn un o gynghorwyr mwyaf profiadol cyngor y dref ac yn gynghorydd sir ers nifer o flynyddoedd.
Yn wreiddiol o ardal Coventry, fe ddaeth Mr Harris i Lambed fel myfyriwr ym Mhrifysgol Dewi Sant Llanbed, cyn aros yn y dref i ddechrau teulu.
Roedd yn aelod selog o’r Blaid Lafur a bu’n gadeirydd ar Gyngor Ceredigion.
Dywedodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion: “Roedd Hag yn adnabyddus i bawb, yn bresenoldeb parhaol yn y dref, a phob tro’n barod ei gymwynas. Gwasanaethodd Llambed fel Cynghorydd Tref a Sir am ddegawdau, gan wneud cyfraniad sylweddol i holl fudiadau a digwyddiadau’r dref.”
Darllenwch fwy yma.