
Pryder bod y diwydiant pornograffi yn rhoi syniad 'afrealistig' o ryw

Pryder bod y diwydiant pornograffi yn rhoi syniad 'afrealistig' o ryw
Mae pobl sydd yn creu cynnwys o natur rywiol yn dweud bod y diwydiant pornograffig yn rhoi syniad “afrealistig” o ryw ac yn cael effaith negyddol ar bobl ifanc.
Mae Alaw Haf o'r gogledd yn creu cynnwys ar y wefan ‘Only Fans’ sef platfform sy’n seiliedig ar danysgrifiadau a gafodd sylw ar ôl i weithwyr rhyw ddechrau defnyddio’r wefan yn ystod cyfnodau clo.
Ym mis Awst 2021, cyhoeddodd 'Only Fans' gynlluniau i wahardd cynnwys rhywiol eglur o'r platfform, ond ers hynny maen nhw wedi gwneud tro pedol.
“Mae’r porn sites yma yn afrealistig iawn, oherwydd mae gymaint o bwysau ar y performers ar sut maen nhw’n edrych,” meddai Alaw mewn cyfweliad gyda Hansh Dim Sbin.
“Mae’n bwysig iawn i gael cynrychiolaeth realistig o gyrff a phrofiadau mewn porn, oherwydd dwi’n meddwl mai digon o bwysau arnom ni yn barod trwy gyfryngau cymdeithasol ar sut ddylen ni edrych.
Mae hi’n dweud bod hi wedi gweld effaith pornograffi drwy negeseuon pobl ar y wefan.
“Dwi'n gweld dylanwad porn ar requests fi ar ‘Only Fans’, a dydw i ddim yn gwneud dim byd fel hwnna, it’s not for me. Dwi’n cael pethau weithiau a dwi’n meddwl ‘Where have you seen that?’”.
“Dwi’n meddwl bod e’n anodd meddwl lle gall bobl ifanc dysgu am ryw rili, oni bai'r porn sites ‘ma a ‘Only Fans’.”

'Syniad afrealistig'
Mae actor pornograffi o Rondda Cynon Taf oedd am fod anhysbys, yn credu bod y deunydd yn cael effaith negyddol.
“Mae gen i views eithaf cymysg am y diwydiant porn dwi’n meddwl, ma' barn fi yn sicr wedi newid ers creu porn fy hun. Nid yw porn proffesiynol yn gynrychiolaeth o ryw go iawn o gwbl.
“Dwi’n meddwl bod ‘mainstream porn’ fel y sites mawr definitely yn rhoi syniad afrealistig ac weithiau hollol anghywir o ryw.”
Mewn ymchwiliad o dros 1,000 o bobl ifanc rhwng 18-25 gan BBC3, roedd 55% o ddynion yn dweud mai pornograffi oedd eu prif ffordd o gael addysg rhyw, o gymharu â 34% o fenywod.
“Mae pobl ifanc yn troi i bornograffi am wybodaeth,” yn ôl y seicotherapydd, Julie Jones.
“Ma gen i gleientiaid hŷn sy' wedi cael eu rhywioli ers oedran ifanc wrth wylio porn, rhai pobl mor ifanc â chwe blwydd oed, sy’n teimlo nawr fel bod nhw'n methu mynd mewn i berthynas."
Yn ôl y wefan porn, Paint Bottle, mae gwefannau porn yn cael mwy o ymwelwyr na Netflix, Amazon a Twitter wedi eu cyfuno.
I ddarllen mwy o gynnwys Hansh Dim Sbin a'i ymgyrch addysg ryw ewch i instagram.