Oedi sylweddol i nifer o deithwyr mewn meysydd awyr ar hyd y DU

Mae adroddiadau fod teithwyr mewn nifer o feysydd awyr ar draws y DU wedi gorfod dioddef oedi sylweddol yn ystod y diwrnod diwethaf, wrth i nifer fawr o bobl geisio hedfan ar wyliau hanner tymor am y tro cyntaf ers i gyfyngiadau teithio coronafeirws gael eu llacio'n llawn.
Bu oedi hir i deithwyr ym meysydd awyr Heathrow, Stansted, Bryste a Manceinion wrth i gwmnïau teithio geisio ymdopi gyda chynnydd mewn niferoedd teithwyr ar ôl cyfnod y pandemig.
Mae cwmni teithio Tui wedi gorfod gohirio neu ganslo miloedd o hediadau o Gatwick, Birmingham a Manceinion, gan ymddiheuro i deithwyr am eu trafferthion.
Yn ôl yr undebau sydd yn cynrychioli gweithwyr y diwydiant teithio, diswyddiadau o ganlyniad i'r pandemig sydd yn rhannol gyfrifol am y problemau presennol, gan fod cymaint o weithwyr wedi colli eu gwaith fel bod bwlch amlwg yn ymddangos mewn gwasanaethau erbyn hyn.
Darllenwch ragor yma.