Newyddion S4C

'Bloeddiwn gerbron y gwledydd': Pwysigrwydd y gân 'Yma o Hyd' i gefnogwyr Cymru

'Bloeddiwn gerbron y gwledydd': Pwysigrwydd y gân 'Yma o Hyd' i gefnogwyr Cymru

NS4C 01/06/2022

Bydd tîm cenedlaethol pêl-droed Cymru yn ceisio cyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022 mewn gêm dyngedfennol nos Sul.

Dyw carfan Robert Page ddim yn gwybod eto pwy fydd eu gwrthwynebwyr ar y noson, gan y bydd yn rhaid aros tan ganlyniad y gêm rhwng yr Alban ac Wcráin nos Fercher i ddarganfod hynny.

Ond er yr ansicrwydd am y gwrthwynebwyr, mae un peth y sicr, fe fydd cefnogwyr y Wal Goch yn bloeddio eu cefnogaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan ddaw'r awr fawr ddydd Sul.

Ac ymysg y ffefrynnau fydd yn cael eu canu, mae anthem newydd answyddogol cefnogwyr Cymru, sef 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan.

Yn dilyn yr ymateb gwefreiddiol i'w berfformiad o'r gân cyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Awstria, bydd Dafydd Iwan yn ei pherfformio unwaith eto cyn y chwiban gyntaf nos Sul.

Image
S4C
Dafydd Iwan yn canu Yma o Hyd cyn gêm Cymru yn erbyn Awstria.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dafydd Iwan bod y gân wedi dod yn “symbol o ysbryd y gêm erbyn hyn.

“Ac mae o yn wych o beth. Nid oherwydd mai fi sydd wedi ei sgwennu a’i chanu hi, ond gan fod ‘na gân Gymraeg yn cael ei pherchnogi gan dîm cenedlaethol pêl droed Cymru,” ychwanegodd.

‘Deall arwyddocâd y geiriau’

Ysgrifennodd Dafydd Iwan y gân yn dilyn cyfnod cythryblus yn wleidyddol i Gymru yn yr 1980au, ac mae’r geiriau yn cydio yn y syniad bod modd ‘goroesi er gwaethaf pawb a phopeth’.

Yn ôl Dafydd Iwan, mae’r tîm a’r cefnogwyr wedi dod i ddeall arwyddocâd y geiriau'n llawn erbyn hyn.

“I rywbeth fod yn anthem mae rhaid cael sawl elfen, ac mae’n ffitio felly de."

Dywedodd hefyd fod y perfformiad yn rhan o’r broses o “wneud y Gymraeg yn rhan o fywyd Cymru yn yr ystyr llawnaf posib.

“Mae ‘na rwbath sydd yn y gân sydd yn taro deuddeg gyda phobl sydd ddim yn deall y geiriau a dwi ddim yn siŵr iawn sut ma’ hynny yn gweithio,” meddai.

Mae Dafydd Iwan wedi rhoi geiriau'r gân yn y Gymraeg a'r Saesneg ar wefannau cymdeithasol cyn y gêm fawr nos Sul.

Dros y blynyddoedd mae’r gân a nifer o ganeuon eraill wedi dod yn rhan o ddiwylliant y gêm.

Mae Dafydd Iwan yn credu fod canu wedi dod yn draddodiad yn hytrach na pheth dros dro neu gimig.

“Mae’r cefnogwyr yn dechrau canu Hen Wlad fy Nhadau yng nghanol gêm pan fydda nhw’n teimlo bod angen codi’r tîm, maen nhw’n torri allan i ganu, ac mae safon y canu yn rhyfeddol o dda.

“Ma rhywun yn teimlo bod y gynulleidfa 100% tu ôl i’r tîm, 100% tu ôl i’r ymdrech ac mae yn wych i weld, a’r ffaith bod ‘na gymaint o ganu Cymraeg gan dorf sydd yn bennaf yn ddi-Gymraeg."

Yma o Hyd

Ennill neu beidio nos Sul, “mae ‘na rywbeth mawr yn digwydd yn y garfan bêl-droed a gallwn ni symud ymlaen i betha’ gwych,” meddai Dafydd Iwan.

“Ar bapur dylen ni ddim bod yn cystadlu ar y lefel uchaf ond mae yna ryw ysbryd pan bydd y chwaraewyr yn dod at ei gilydd, maen nhw’n chwarae dros fwy na’ crys. Maen nhw’n chware dros genedl, maen nhw’n chwarae dros hanes.

“Mae’n wych i glywed o, a gobeithio bydd yna fwy, falle dylen i eistedd lawr a meddwl am ganeuon eraill.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.