Newyddion S4C

Gwrthdrawiad Llanfair Caereinion: Dau blentyn yn parhau yn yr ysbyty

30/05/2022
Llanfair

Mae dau blentyn yn parhau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Llanfair Caereinion ym Mhowys brynhawn Llun diwethaf. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad oddi ar Lôn Yr Ysgol yn y dref.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng bws ysgol a phobl ifanc a wnaeth achosi i yrrwr y bws a phedwar o blant gael eu cludo i'r ysbyty. 

Mae dau o'r pedwar plentyn yn parhau yn yr ysbyty, gyda'r gweddill bellach wedi cael dychwelyd adref.

Mae gyrrwr y bws hefyd wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty. 

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd gan wybodaeth am y gwrthdrawiad drwy ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20220523-232.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.