Enillwyr Eurovision yn gwerthu'r tlws er mwyn codi arian ar gyfer byddin Wcráin

Mae enillwyr Eurovision 2022, Kalush Orchestra, wedi gwerthu eu tlws er mwyn codi arian ar gyfer byddin Wcráin.
Enillodd y grŵp rap o Wcráin gyda'u can 'Stefania', gan sicrhau'r nifer fwyaf erioed o bleidleisiau gan y cyhoedd yn hanes y gystadleuaeth.
Ond nawr mae'r grŵp wedi gwerthu'r tlws am $900,000 mewn ocsiwn ar Facebook nos Sul, gan roi'r holl arian i fyddin Wcráin er mwyn ei helpu yn y rhyfel yn erbyn Rwsia.
Bydd yr arian yn cael ei wario ar system drôn newydd i helpu byddin y wlad yn ei hymdrechion i wrthsefyll ymosodiad Rwsia.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Michael Doherty