Newyddion S4C

CPD Wrecsam

Gobeithion CPD Wrecsam am ddyrchafiad ar ben ar ôl colli i Grimsby ar y Cae Ras

NS4C 28/05/2022

Mae gobeithion CPD Wrecsam am ddyrchafiad ar ben ar ôl colli yn erbyn Grimsby ar y Cae Ras o 4-5 yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.

Cafodd cefnogwyr Wrecsam fraw ar ôl tair munud o’r gêm pan rwydodd Grimsby’r bêl.  Ond roedd chwaraewr Grimsby yn camsefyll felly ni chaniatawyd y gôl er mawr ryddhad i’r dorf gartref.

Yr ymwelwyr gafodd y gorau o’r chwarae gan orfodi Wrecsam i amddiffyn am y 10 munud cyntaf.

Ar ôl gwrthsefyll y cyfnod cynnar yma aeth Wrecsam ar y blaen gyda chic o’r smotyn i Paul Mullin ar ôl iddo gael ei lorio yn y cwrt cosbi.

Ond o’r ymosodiad cyntaf wedi hyn fe sgoriodd John McAtee dros Grimsby gydag ergyd o 20 medr i ddod â’r sgôr yn gyfartal.

Llwyddodd Wrecsam i gael y bêl i rwyd Grimsby unwaith eto o gic gornel ar ôl 23 munud ond roedd trosedd yn erbyn y golwr.

Roedd Grimsby yn ddiolchgar i’w golwr am arbed nifer o gyfleoedd i Wrecsam wrth i’r Dreigiau bwyso.

Aeth pethau yn waeth i'r tîm cartref ar ôl dwy funud o’r ail hanner pan sgoriodd capten Grimsby a chyn-chwaraewr Wrecsam Luke Waterfall i osod yr ymwelwyr ar y blaen.

Bu’n rhaid i’r golwr Christian Dibble arbed Wrecsam sawl gwaith cyn i’r tîm cartref godi’r dorf unwaith eto gyda gôl gan Ben Tozer yn erbyn llif y chwarae.

Dwy funud yn ddiweddarach roedd Tozer yn allweddol unwaith eto gyda thafliad hir i’r cwrt yn galluogi Mullin i osod Wrecsam ar y blaen o 3-2 ar ôl 65 munud.

Mewn gêm hynod gyffrous daeth Grimsby yn gyfartal ar ôl 71 munud gyda gôl i Ryan Taylor. 3-3.

Aeth Grimsby ar y blaen eto ar ôl 77 munud gyda gôl gan Dieseruvwe.

Yna cafodd ergyd Mullin ei arbed gan golwr Grimsby cyn i’r bachgen lleol Jordan Davies sgorio eto i Wrecsam. 4-4.

Gyda’r sgôr yn gyfartal ar ôl 90 munud aeth y gêm i’r cyfnod ychwanegol.

Wrth i’r ddau dîm flino, chafwyd ddim goliau yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol.

Yn y munudau olaf llwyddodd Grimsby i sgorio gôl arall gan Waterfall i chwalu gobeithion Wrecsam.

Llun: Twitter/CPD Wrecsam

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.