Cyhuddo dyn o lofruddio menyw 79 oed yng Nghasnewydd
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 51 oed o lofruddio menyw oedranus yng Nghasnewydd.
Cafodd Mari O'Flynn, 79, ei darganfod yn farw ddydd Mawrth mewn cyfeiriad ar Heol Leach yn ardal Bettws.
Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn, 28 Mai.
Wrth roi teyrnged i Ms O'Flynn, dywedodd ei theulu ei bod yn fenyw "hyfryd, gref ac annibynnol."
“Mae ein calonnau wedi torri gan y ffordd greulon y cafodd ein mam ei chymryd oddi wrthym ni.
“Ni fyddem byth wedi dychmygu ein hunain yn y sefyllfa hon ac ni all geiriau ddisgrifio’r galar rydym yn ei brofi ar hyn o bryd.
“Ein unig gysur yw gwybod ei bod wedi ymuno unwaith eto gyda’i gŵr a’i ffrind gorau, y mae hi wedi ei golli gymaint.
“Fydd hi byth yn bosibl llenwi’r bwlch ar ei hôl a bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb, teulu a ffrindiau yn ddiwahân.”
Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â nhw gan gyfeirio at rif cyfeirnod 2200173266.