‘Ma' bod ar-lein yn trigger mawr’: Pryderon am effaith TikTok ar anhwylderau bwyta

‘Ma' bod ar-lein yn trigger mawr’: Pryderon am effaith TikTok ar anhwylderau bwyta
Mae pryderon bod fideos ar wefan cymdeithasol TikTok yn gallu rhoi cynnwys niweidiol a gwybodaeth anghywir i'r rheiny sydd ag anhwylderau bwyta.
Er bod y platfform, TikTok, yn gallu helpu normaleiddio cyflyrau iechyd gwahanol, mae Holly Rhys-Ellis, sy’n 26 oed o Gaerfyrddin, wedi dewis peidio mynd ar gyfryngau cymdeithasol, fel TikTok, wrth iddi wella o anhwylder bwyta.
“Dwi wedi ffeindio ffyrdd o ddelio gyda'r anhwylder bwyta ac mae bod ar lein, ma hwn yn gallu bod yn trigger eitha fawr so dwi’n ffeindio fe’n haws just i aros i ffwrdd o apps fel TikTok.
“Mae yna lot o fideos o beth mae pobl yn bwyta mewn diwrnod, gall hwnna helpu mewn ffyrdd os ma fe’n dangos diwrnod realistig o beth mae rhywun yn bwyta ond yn anffodus mae lot o fideos yn dangos diet sy’n restrictive iawn”
Ond mae Holly hefyd yn credu bod TikTok yn gallu cael ei ddefnyddio mewn ffordd gadarnhaol a chymwynasgar.
“Mewn byd delfrydol y freuddwyd fyddai, pryd bynnag y bydd fideo toxic yn cael ei uwchlwytho sy'n hyrwyddo mynd ar ddeiet ac sy'n cael ei yrru gan anhwylder bwyta, byddai'n cael ei ddileu ar unwaith, a bod y person sydd y tu ôl i'r fideo yn derbyn cymorth.
“Gobeithio y daw'r freuddwyd honno'n realiti."
Mae rhai eisoes yn defnyddio'r app mewn ffordd bositif i fynd i’r afael â stigma, megis Jessie Davies, perchennog brand harddwch o Aberpennar, sydd yn siarad ag atal.
“Rwy’n rhannu fy fideos ar TikTok oherwydd dyw [siarad ag atal] ddim yn cael ei siarad am digon aml o gwbl.
“Rydw i ar fy siwrnai fach fy hun ac rydw i’n ei ddogfennu ac rwy’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli ond hefyd yn addysgu.”
Dywedodd Swyddog Cenedlaethol Beat i Gymru, Jo Whitfield;
“Tra bod y berthynas rhwng cyfryngau cymdeithasol ac anhwylderau bwyta yn un cymhleth, a byddai rhywun ddim yn datblygu anhwylder bwyta trwy wylio fideos ar-lein yn unig, gall gweld cynnwys niweidiol ar-lein gyfrannu at ddatblygu anhwylder bwyta.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod rhai pobl sy'n cael eu heffeithio gan anhwylderau bwyta yn gweld TikTok yn rhan ddefnyddiol o'u hadferiad. Er enghraifft, mae yna gymunedau adferiad sy'n annog pobl i rannu profiadau ac estyn allan am gymorth.
Dywedodd TikTok mewn datganiad eu bod nhw'n "ceisio ymdrin â’r rhai sy’n dioddef o anhwylder bwyta gyda thosturi, oherwydd efallai eu bod nhw’n defnyddio ein platfform i ddarganfod cymuned. Rydym ni’n cael gwared â chynnwys sy’n darlunio, hyrwyddo neu yn normaleiddio anhwylder bwyta.”