Boris Johnson yn addasu'r Cod Gweinidogol er mwyn osgoi ymddiswyddo os oes gweinidogion yn torri'r rheolau

Yn dilyn addasiadau i'r Cod Gweinidogol ddydd Gwener, ni fydd yn rhaid i weinidogion sy'n cael eu canfod yn euog o dorri'r rheolau'r Cod ymddiswyddo.
Daw'r newidiadau yn sgil ymchwiliad disgyblu'r cyn Aelod Seneddol, Owen Paterson, y llynedd ar ôl cadarnhad bod Mr Paterson wedi torri rheolau lobïo "droeon".
Nid oedd y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn awyddus i weld Mr Paterson yn ymddiswyddo, ond gwnaeth dro pedol yn dilyn oblygiadau ei sylwadau.
Mae Mr Johnson ar hyn o bryd o dan ymchwiliad i ganfod os y gwnaeth gamarwain y Senedd wrth honni nad oedd partïon yn Rhif 10 Downing Street yn ystod y cofnod clo ac eu bod wedi cadw at y rheolau bob amser.
Darllenwch fwy yma.