Cynlluniau i ddymchwel trosffordd Caernarfon yn hollti barn

Cynlluniau i ddymchwel trosffordd Caernarfon yn hollti barn
Gallai trosffordd sy'n torri trwy ganol tref Caernarfon gael ei dymchwel am fod costau i’w chynnal yn rhy ddrud.
Cafodd y drosffordd syn croesi rhwng ardal Twthill a chanol y dref ei hadeiladu yn y 80au i alluogi cerbydau’r A487 i osgoi rhannau o ganol Caernarfon.
Fe gostiodd y prosiect filiynau o bunnoedd gan hefyd olygu dinistrio llawer o adeiladau ardal Twthill, gan gynnwys ysgol, llyfrgell a dau gapel.
Mewn ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol mae’n debyg fod nifer o bobol leol o blaid cael ei gwared, ond mae Cyngor Gwynedd yn deud fod llawer o waith ymchwil i’w wneud cyn penderfynu’n derfynol.
Mae pedwar opsiwn:
Cadw pethau fel ag y maen nhw.
Troi’r drosffordd yn bont werdd a thyfu coed a gwair ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Dymchwel y drosffordd a chadw’r gylchfan yma.
Dymchwel y drosffordd a chodi cylchfan newydd sbon.
Mae’r opsiynau wedi hollti barn yn y dref.
“Ma'r cyngor sir wedi deud bod isio gwario gryn dipyn o arian i neud o fyny i'r gofynion ar ôl 39 mlynedd di 'na ddim yn glyfar iawn nadi,” meddai un person.
"Might as well cael gwared arna fo. Ond eto mae o yn bres yn erbyn Gaernarfon wedyn, lle 'sa fo'n gallu cael ei #investio# mewn siopau a ballu lleol, dwi'n meddwl fysa fo'n fwy o #investment' i'r dref,” meddai rhywun arall.
Beth bynnag fydd y dewis, does na ddim disgwyl i waith adeiladu neu ddymchwel ddigwydd am o leiaf dwy flynedd.