Wrecsam: 'Cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn amcan hir-dymor'
Wrecsam: 'Cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn amcan hir-dymor'
Mae cyd-berchennog Clwb Pêl-Droed Wrecsam, Rob McElhenney, wedi dweud mai uchelgais hir-dymor yw sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.
Daw sylwadau'r seren Hollywood mewn cyfweliad arbennig â Newyddion S4C ar drothwy gêm y Dreigiau yn erbyn Grimsby Town yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.
Dywedodd wrth y newyddiadurwr Maxine Hughes y byddai'n "dorcalonnus" os yw Wrecsam yn methu ag ennill dyrchafiad i Adran Dau eleni, ond yn ymwybodol ei fod yn anelu i adeiladu'r clwb ymhellach gyda'i gyd-berchennog Ryan Reynolds yn y blynyddoedd i ddod.
"Craidd ein nod yma yw, a'r sylfaen o beth ni'n 'neud yma, yw creu teimlad o bositifrwydd, o obaith, o ffydd bod y clwb yn medru ennill eleni ond hefyd yn mynd i fod yma am amser hir," meddai.
"Ac os mai'r nod yn fwy na jyst cael ein dyrchafu i Adran Dau ond i godi ymhellach ac i gyrraedd y Bencampwriaeth neu'r Uwch Gynghrair, mae hynny'n amcan hir-dymor.
"A dwi'n meddwl bod y ffydd yma, ac mae'n amlwg bod y gefnogaeth yma, felly dwi'n meddwl ni eisoes wedi llwyddo i 'neud be ni wedi anelu gwneud, felly'r oll sydd rhaid gwneud yw gorffen y peth."
Mae'r perchnogion annhebygol o Hollywood wedi arwain Wrecsam i'w tymor mwyaf llwyddiannus mewn degawd, gan orffen yn ail yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.
Er gwaethaf y tymor hanesyddol, mae'r clwb wedi dioddef nifer o gyfnodau siomedig, yn enwedig yn yr wythnosau diwethaf.
Yn y pendraw, ni lwyddodd y Dreigiau i gau'r bwlch rhyngddyn nhw a Stockport ar frig y tabl ar ddiwrnod olaf y tymor, yn dilyn cyfnod arbennig a oedd wedi codi'r posibilrwydd o osgoi'r gemau ail-gyfle ac ennill dyrchafiad awtomatig.
A phenwythnos diwethaf bu siom arall wrth i Wrecsam golli yng ngêm derfynol Tlws yr FA yn erbyn Bromley yn Wembley.
Bydd y Dreigiau yn edrych i anghofio'r siom diweddar gan sicrhau lle yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, gan ddod o fewn un fuddugoliaeth o Adran Dau.
Maent yn wynebu Grimsby Town ddydd Sadwrn yn y Cae Ras mewn gêm sydd yn debygol o godi'r to.
Ar ôl 14 mlynedd yn y Gynghrair Genedlaethol, bydd mantais gartref yn hollbwysig ddydd Sadwrn wrth i'r freuddwyd o gael dyrchafiad i Adran Dau ddod yn agosach.
Solihull Moors yn erbyn Chesterfield fydd y rownd gynderfynol arall, a bydd enillwyr y ddwy gêm yn mynd ymlaen i wynebu ei gilydd yn Stadiwm Olympaidd Llundain ar 5 Mehefin, gyda'r tîm buddugol yn cael dyrchafiad i Adran Dau.
Fe fydd y cyfweliad estynedig ar S4C am 19:30.
Llun: CPD Wrecsam